Peredur ap Gwynedd

Beth oedd dy brofiad cyntaf gyda cherddoriaeth Cymraeg?
Gweld Geraint Jarman yn chwarae'n fyw yn yr eisteddfod gyda Tich Gwilym ar y gitâr flaen. Roedd gweld Tich yn chwarau yn drobwynt mawr yn fy mywyd. Dyna pryd nes i ddewis ddysgu chwarae gitâr.
Pwy oedd dy hoff fand neu gerddor Cymraeg wrth dyfu fyny?
Y Diawled, Crys, Maffia Mr Huws, Omega, Llygod Ffyrnig, Anrhefn a'r Trwynau Coch.
Beth yw dy hoff albwm neu gân Gymraeg erioed?
'Y Gwyliau' gan Tynal Tywyll. Mae 'Cyn Symud i Ddim' gan Datblygu yn ffab hefyd.
Beth oedd y perfformiad Cymraeg gorau wyt ti wedi gweld?
Un o gigs Jess siwr o fod. Un o fandiau byw gorau rwy erioed wedi gweld mewn unrhyw iaith.
Ydy cerddoriaeth Cymraeg wedi dylanwadu ar dy fywyd mewn unrhyw ffordd?
Mewn pob ffordd. O'n i'n lwcus ges i'r cyfle i recordio a gigio mor ifanc gyda help Aelwyd Yr Urdd Crymych. Oedd hwna'n fantais anferth i mi unwaith nes i ddechrau gweithio fel cerddor proffesiynol
Ar beth wyt ti’n gwrando ar y foment?
Tynal Tywyll - Y Gwyliau
Gorffenna’r frawddeg ‘Heb gerddoriaeth Cymraeg….
.....fyddwn i ddim ble ydw i nawr.'
Oes gen ti ddiddordeb mewn clywed mwy o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg? Cymer olwg ar ein tudalen Cerdd Gyfoes am fwy o wybodaeth.