Cymera rhan yn Dydd Miwsig Cymru 2019

Dydd Gwener Chwefror yr 8fed - dyna'r dyddiad i ddyddiaduron ffans cerddoriaeth Cymru ac ar draws y byd, dyddiad y pedwerydd Dydd Miwsig Cymru.

Mis Chwefror diwethaf, roedd yr actor o Hollywood, Rhys Ifans a'r DJ Radio 1, Huw Stephens, yn annog ffans pob math o fiwsig i ddarganfod y miwsig Cymraeg anhygoel sydd ar gael.  Cafodd pobl o bob oed flas ar y miwsig Cymraeg oedd yn cael ei chwarae ym mhob rhan o'r wlad a hyd yn oed mor bell â Budapest a Brooklyn.   Cyrhaeddodd yr ymgyrch fwy na 74 miliwn a sylwodd cerddorion ar gynnydd cryf mewn ffigurau gwrando ar wasanaethau ffrydio fel Spotify. 

Gyda’r dyddiad ar gyfer 2019 wedi’i gyhoeddi, mae Huw’n galw ar unigolion a sefydliadau ledled Cymru a’r byd i  wrando, rhannu ac gymryd rhan drwy drefnu neu mynychu gigs, parti.  Gall busnesau  gymryd rhan hefyd drwy chwarae miwsig Cymraeg.   

Cysyllta trwy cymraeg@llyw.cymru os wyt ti am fod yn rhan o'r dydd neu os oes syniad neu restr chware gen ti i rannu.

 

Yn yr Adran hon

Rhestrau Chwarae

Applemusic, Spotify a Deezer

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig