Eisiau cefnogi Cymru yn Gymraeg yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016?

Am y tro cyntaf ers 1958, mae tîm pêl droed Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol un o brif bencampwriaeth y gamp. Gyda nifer o’r garfan yn siaradwyr Cymraeg, beth am ddangos dy gefnogaeth yn Gymraeg?

 

Dyma rai awgrymiadau ar sut alli di wneud hynny: 

·         Rhannu clip fideo ohonot ti yn sgorio gôl gyda Radio Cymru. Byddi’n derbyn fflag Cymru ac efallai caiff y clip ei  ddefnyddio yn fideo Ewro 2016 – Rhedeg i Paris.

·         Llenwa siart wal Cymraeg i ddilyn cynnydd tîm Cymru yn y bencampwriaeth ar PDF o siart wal Golwg ar gael isod.

·         Gwylia fideo ymgyrch Mentrau Iaith Cymru sydd wedi casglu dros 20,000 o lofnodion a negeseuon o gefnogaeth gan bobl o bob cwr o Gymru i dîm Pêl-droed Cymru. Dilynwch #CmonCymru a #DiolchCymru i weld y lluniau a’r clipiau o gefnogaeth.

·         Bydd pob gêm Cymru ar S4C HD a fydd llwyth o raglenni pêl droed ymlaen yn ystod y cyfnod.

·         Beth am chwarae gêm ffantasi pêl droed S4C? Y cyntaf o'r fath yn Gymraeg.

·         Cysyllta gyda ni am bosteri C’mon Cymru trwy ein cyfrif cyfryngau cymdeithasol.

·         Beth am ddysgu ambell i derm Ffrangeg gyda’n adnodd?

·         Dilyna ni ar Facebook a Twitter am fwy o wybodaeth a chynnwys ar sut i gefnogi yn Gymraeg trwy gydol y bencampwriaeth.

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Facebook: facebook.com/Cymraeg

Twitter: @Cymraeg | #PethauBychain

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig