Flashmob lansiad cân 'Pethau Bychain'
Mae’r cerddor Mei Gwynedd wedi bod ar daith yn ysgrifennu, perfformio a recordio cân dan y thema Pethau Bychain.

Recordiwyd y gân mewn cyfres o weithdai ar hyd a lled Cymru gyda phobl ifanc yn chwarae'r darnau offerynnol. O ddrymiau a bas yn Llangefni, gitarau yn Llanelli i gôr yng Nghrymych. 

Mae’r gân eisioes wedi cael ei ddewis fel cân yr wythnos ar Radio Cymru.

Cafodd y gân eu lansio yn ystod digwyddiad arbennig ar 5 Gorffennaf yn Tesco Caergybi. Bydd remix gan Roughian yn cael ei ryddhau ar 31 Gorffennaf.

Sut i gefnogi 

Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw help ar y cyfryngau cymdeithasol i roi cyhoeddusrwydd i’r gan. Dilynwch y lansiad ar y sianelau isod ar 5 Gorffennaf.

Twitter:@Cymraeg

Facebook/Cymraeg

Bydd y gân ar gael o Spotify, Apple Music, Deezer ac iTunes:

Am fwy o wybodaeth neu ymholiadau wasg cysylltwch gyda Llio Angharad:

Llio.angharad@Cymru.gsi.gov.uk

Oes gen ti ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg? Am y tro cyntaf erioed, Chwefror 12 oedd #DyddMiwsigCymru – dydd i ddathlu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Cymer olwg yma i ddarllen am brofiadau cerddorion y sîn.

Rhannu'r dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig