Dyma rai ystadegau defnyddiol gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 19 y cant o bobl tair oed a throsodd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (562,000 o bobl). Roedd hyn yn ostyngiad ers Cyfrifiad 2001, pan oedd 20.8 y cant o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg (582,000 o bobl).

Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd y ganran yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl grŵp oedran, o 42.2 y cant ar ei uchaf ar gyfer plant 10 i 14 oed i 13 y cant ar ei isaf ar gyfer pobl 45 i 49 oed.

Roedd y ganran o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg hefyd yn amrywio yn ôl awdurdod lleol. Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin oedd â’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd oedd â’r canrannau isaf o siaradwyr Cymraeg.

O bawb tair oed a throsodd, roedd 14.6 y cant yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn 2011.

Mae’r Arolygon Defnydd Iaith yn cynnig gwybodaeth fanylach ynghylch rhuglder siaradwyr Cymraeg, a’u defnydd o’r iaith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, roedd 11 y cant o’r rheini a oedd yn dair oed a throsodd ac yn byw yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl (oddeutu 319,000 o bobl). Roedd 13 y cant o’r rheini sy’n dair oed a throsodd yn siarad Cymraeg bob dydd (oddeutu 361,000 o bobl).

Yn ôl Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 2017, roedd bron i draean o ysgolion cynradd, canol ac uwchradd Cymru yn rhai cyfrwng Cymraeg (bron i 480 o ysgolion) gyda thros un disgybl ym mhob pump yn mynychu’r ysgolion hyn (bron i 106,000 o ddisgyblion).

Mae rhagor o ystadegau ar yr iaith Gymraeg ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac ar StatsCymru.

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig