• a / ac

    Treiglad llaes sydd ei angen ar ôl y cysylltair ‘a’, nid treiglad meddal. Felly, defnyddiwch a chyda, a chan, a thros, nid ‘a gyda’, ‘a gan’, ‘a dros’ etc.

    Peidiwch â defnyddio ‘&’ (yr ampersand) yn y Gymraeg.

    Yn aml rhoddir ‘and’ ar ddiwedd y pwynt olaf ond un mewn rhestrau Saesneg sydd yn defnyddio’r wyddor. Mae hyn yn gallu achosi problemau yn y Gymraeg – ee yn yr enghraifft isod byddai rhai pobl yn ynganu’r trydydd pwynt c) fel ‘éc’ ac eraill yn dweud ‘cý’, felly byddai anghysondeb yn codi o ran defnyddio ‘a’ neu ‘ac’ o’i flaen.

    Bydd angen ystyried:
    a) costau’r gwaith addasu;
    b) yr amserlen; ac/a
    c) materion iechyd a diogelwch.

    Mewn gwirionedd, gellir hepgor y cysylltair yn llwyr mewn testunau Cymraeg gan nad yw’n ychwanegu dim at eglurder y testun. Ond, o’i gynnwys, dylid trin y llythyren sy’n dod ar ei ôl fel pe bai’n cael ei hynganu yn y dull traddodiadol (hynny yw, ‘éc’ ac nid ‘cý’).

    Mewn ymadroddion yn mynegi meddiant defnyddir ‘a/ac’ (cysylltair) yn hytrach nag ‘â/ag’ (arddodiad):
    gŵr a chanddo dri o blant, cynllun ac iddo rinweddau arbennig

    Negydd ‘a’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
    nid oes ganddi wres na golau yn ei chartref
     
    Negydd ‘ac’ yw ‘nac’ (o flaen llafariaid):
    nid oedd ganddo ddillad nac arian

  • acenion
    Dylech roi acenion ar lythrennau lle bo’u hangen. Mae peidio â’u cynnwys nid yn unig yn golygu eich bod yn camsillafu ond weithiau yn gwneud yr ystyr yn aneglur. Yr acenion a ddefnyddir yn Gymraeg yw’r acen grom (neu’r to bach), ee cytûn; yr acen ddyrchafedig, ee amgáu; yr acen ddisgynedig, ee sgìl; a’r didolnod, ee glanhäwr.
  • arddodiaid

    Mae angen bod yn ofalus ag arddodiaid, yn enwedig wrth gyfieithu to, for, on ac ati.

    Dyma rai camgymeriadau cyffredin:

     Cywir Anghywir 
     â/ag  
     cydweithio â  cydweithio gyda
     cysylltu â  cysylltu gyda
     cytuno â (rhywun/rhywbeth)  cytuno gyda
     gwrthdaro â  gwrthdaro gyda
     siarad â  siarad gyda
     trafod â  trafod gyda
     perthynas â  perthynas gyda
     torri papur â siswrn  torri papur gyda siswrn
     pobl ag anghenion arbennig  pobl gydag anghenion arbennig
     ar/arno/arnom etc  
     gwahanol agweddau ar y pwnc  gwahanol agweddau o'r pwnc
     mae'r frech goch arno  mae ganddo'r frech goch
     roedd yn fodlon ar y penderfyniad  roedd yn fodlon â'r penderfyniad
     mae arnom angen arian neu mae angen arian arnom  rydym angen arian
     elwa ar y profiad  elwa o'r profiad 
     at  
     gresynu at y penderfyniad  gresynu'r penderfyniad neu gresynu wrtho
     anfon e-bost at Mair (at berson)  anfon e-bost i Mair
     i  
     anfon llythyr i'r Cyngor Sir (i rywle)  anfon llythyr at y Cyngor Sir 
     cytuno i wneud rhywbeth  cytuno gwneud rhywbeth
     tueddu i effeithio  tueddu effeithio
     helpu rhywun i wneud rhywbeth  helpu rhywun wneud rhywbeth
     trefnu i ddod  trefnu dod
     mae'n bwysig nodi  mae'n bwysig i nodi
     o  
     rwy'n falch o fod yma  rwy'n falch i fod yma
     dyma'r ffordd orau o wneud hyn  dyma'r ffordd orau i wneud hyn
     mae'n gyndyn o gymryd y swydd  mae'n gyndyn i gymryd y swydd 
     wrth  
     ynghlwm wrth  ynghlwm â neu yn glwm â 
     glynu wrth  glynu at neu glynu i
       

    Wrth benderfynu pa arddodiad i'w ddefnyddio i gyfleu lleoliad rhywbeth neu i ba gyfeiriad y mae'n symud, gall fod yn ddefnyddiol ystyried ai pwynt, arwynebedd ynteu gyfaint y cyfeirir ato. Er enghraifft, a fyddai rhywun yn dweud 'ar y maes chwarae' ynteu 'yn y maes chwarae'?

    Mae pêl droed ar y maes chwarae - arwynebedd - hy mae'n cyfeirio at fod ar wyneb y tir glaswelltog
    Beth am gwrdd yn y maes chwarae? - cyfaint - hy mae'n golygu'r ardal i gyd a phopeth sydd ynddi

    Ceir disgrifiad defnyddiol o'r opsiynau yn adran 5.23 o Gramadeg y Gymraeg gan Peter Wynn Thomas.

  • bod / fod

    Mae angen treiglo:

    • ar ôl ffurfiau cryno’r ferf:
      credaf fod
    • ar ôl ‘efallai’ (sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘fe allai’):
      efallai fod angen bwyd arno

    Nid oes angen treiglo:

    • ar ôl ffurfiau amhersonol:
      credir bod
    • ar ôl berfenw:
      mae’n credu bod
    • ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).
    • ar ôl ffurfiau megis ‘y ffaith’, ‘mae’n amlwg’, ‘mae’n syndod’:
      y ffaith bod swyddfeydd y Cyngor ar gau sydd wedi cythruddo’r bobl
  • budd-dal
    nid 'budd-dâl'
  • caniatáu
    'caniatáu i rywun wneud rhywbeth' nid ‘caniatáu rhywun i wneud rhywbeth’
  • cwyn (complaint)
    cwyn
    y gŵyn
    a chŵyn
  • cymaint / cynifer

    Mae angen gwahaniaethu.

    Mae ‘cymaint’ yn cyfeirio at ‘faint’:
    cymaint o dlodi, cymaint o law

    Mae ‘cynifer’ yn cyfeirio at ‘nifer’:
    cynifer o weithwyr, cynifer o anifeiliaid

  • cymerodd
    nid 'cymrodd'
  • cymryd
    nid 'cymeryd'
  • cymwysedig
    nid ‘cymwys’ lle bo’n cyfateb i ‘qualified’, ee athrawon cymwysedig
  • cymwyseddau
    nid 'cymhwyseddau'
  • cymwysterau
    nid 'cymhwysterau'
  • cynyrchiadau
    nid 'cynhyrchiadau'
  • dros
    nid ‘a dros’, ond a thros
  • drwy / drwyddo
    nid ‘a drwy’, ond a thrwy
  • dyddiau'r wythnos

    Mae’n anghywir defnyddio’r arddodiad ‘ar’ wrth gyfeirio at ddiwrnod penodol:
    Cynhelir y cyfarfod ddydd Llun, 15 Hydref
    Byddaf yn mynd i siopa ddydd Gwener nesaf

    Ond wrth gyfeirio at ddiwrnod cyffredinol, mae angen ‘ar’:
    Byddaf yn mynd i siopa ar ddydd Gwener (hynny yw, bob dydd Gwener neu unrhyw ddydd Gwener).

  • eisoes
    nid 'eisioes'
  • er gwaethaf

    nid ‘ar waethaf’ nac ‘er waethaf’

  • fel

    fel + berf
    fel y, nid ‘fel a’:
    fel y nodir isod, nid ‘fel a nodir isod’

    fel a ganlyn

  • I
    i mewn
    nid ‘i fewn’
  • lle / ble

    y papurau newydd lle’r hysbysebir y swyddi, nid ‘y papurau newydd ble’r hysbysebir y swyddi’

    Defnyddir ‘ble’ (sef ‘pa le’) i ofyn cwestiwn:
    Ble bydd y swyddi’n cael eu hysbysebu?

  • cysylltnod

    Yn gyffredinol, mae angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau lle bo’r ail elfen yn air unsill.

    Yn gyffredinol, nid oes angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau lle bo’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill.

    • Ar ôl y rhagddodiaid ad-, cyd-, dad-, di-, gor-, gwrth-, rhag-, rhyng-, tra-, traws-

          Enghreifftiau cyffredin:
          di-waith     diweithdra
          gor-ddweud  gorweithio
          cyd-fynd  cydadolygiad 

          Eithriadau cyffredin:
          ad- lle bo’r llythyren ‘t’ yn treiglo’n feddal ar ôl ad- mae angen cysylltnod gyda lluosillafion, ee ad-daliad, ad-drefnu
          cyd- lle bo cyd- yn golygu ‘fellow’, ‘joint’ mae angen y cysylltnod gyda lluosillafion, ee cyd-weithwyr, cyd-bwyllgor

    • Ar ôl yr ansoddeiriau ail-, arch-, blaen-, cam-, cyn-, lled-, ôl-, pen-, prif-, uwch-, is-

          Enghreifftiau cyffredin:
          ail-greu     ailadrodd
          cam-drin camddefnyddio

          Eithriadau cyffredin:
          prif   Mae ‘prifddinas’ a ‘prifysgol’ yn un gair. Pan fo prif yn cyfateb i chief yn Saesneg, mae’r ddwy elfen yn cael eu hysgrifennu ar wahân, ee ‘Prif Gwnstabl’.
          uwch-, is-  nid oes angen cysylltnod mewn geiriau fel ‘uwchraddol’, ‘isdeitl’ ond mae ei angen lle bo’r ail elfen yn enw ar gorff neu swydd ac ati, ee ‘uwch-reolwr’, ‘is-bwyllgor’, ‘is-lywydd’, ‘is-adran’. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu hefyd yw defnyddio ‘is-ddeddfwriaeth’.

    • cysyllteiriau yn dechrau â ‘hunan’
      ee hunan-barch hunangynhaliol

    Rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-‘ i gyfleu’r cyfrwng electronig, ee e-bost, e-bostio, e-lywodraeth, e-Weinidog, e-Gymru. Mae hyn yn bwysig o ran y pwyslais ac o ran cysondeb.

  • maen nhw
    nid ‘mae’n nhw’ na ‘mae nhw’
  • nac ydw
    nid 'nag ydw'
  • nepell
    Mae angen defnyddio’r negydd gyda’r ansoddair ‘nepell’:
    Yng Nghwmffrwd yr oedd yn byw, nid nepell o Gaerfyrddin.
    Nid yw’r orsaf nepell o ganol y dref.
  • nifer

    Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

    Gall ‘nifer’ fod yn fenywaidd ac yn wrywaidd ond er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu dylid ei drin fel enw gwrywaidd.

  • oddi wrth
    nid 'oddiwrth'
  • ond

    nid yw ... ond ..., nid ‘mae ... ond ...’

     

    Dyma enghreifftiau:

     

    This exemption is applicable only to those who live in Wales.
    Slafaidd: Mae’r eithriad hwn yn gymwys yn unig i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.
    Gwell:  Nid yw’r eithriad hwn yn gymwys ond i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.
    Y gorau? Dim ond i’r rhai sy’n byw yng Nghymru y mae’r eithriad hwn yn gymwys.

     

    Jac is only 20 years old.
    Anghywir: Mae Jac ond yn 20 oed.
    Cywir: Nid yw Jac ond 20 oed/Dim ond 20 oed yw Jac.

     

    He only goes there when he has to.
    Anghywir: Mae’n mynd yno ond pan fydd rhaid.
    Cywir: Nid yw’n mynd yno ond pan fydd rhaid.

  • oni bai
    nid 'onibai'
  • os

    Nid oes angen ‘y’ ar ôl ‘os’:
    os byddwch yn dod i’r cyfarfod, nid ‘os y byddwch yn dod i’r cyfarfod’

    Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘os’, ond mae angen berf:
    os yw’n barod, nid ‘os yn barod’
     
    Nid oes angen ‘mai’ ar ôl ‘os’:
    os mynd oedd y penderfyniad …, nid ‘os mai’r penderfyniad oedd mynd …’

    'If' yw ystyr 'os, nid 'whether'. Mewn cwestiynau anuniongyrchol felly, yn ogystal â rhai uniongyrchol, defnyddiwch ‘a’ nid ‘os’ o flaen y ferf: 
    'gofynnodd y Cadeirydd a oedd pawb yn bresennol', nid ‘gofynnodd y Cadeirydd os oedd pawb yn bresennol’.

  • pan

    Nid oes angen ‘y’ ar ôl ‘pan’:
    pan fyddwch yn barod, nid ‘pan y byddwch yn barod’

    Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘pan’, ond mae angen berf:
    pan fyddwch yn gweithio ar gyfrifiadur, nid ‘pan yn gweithio ar gyfrifiadur’

    Yn lle ‘pan yw’ (sy’n ffurfiol iawn) neu ‘pan mae’ (sy’n anghywir) gall ‘pan fo’ fod yn ffurf ddefnyddiol ar adegau.

    Defnyddiwch ‘pan fo’ i gyfleu where amgylchiadol hy pan fo'r gair where yn cyfeirio at amgylchiadau yn hytrach na lleoliad:
    Where a pupil is suspended, the parent must be informed.
    Pan fo disgybl yn cael ei wahardd, rhaid hysbysu'r rhiant.

    Defnyddiwch ‘pan fydd’ i gyfleu when

  • parhaol
    continuous, permanent
  • parhaus
    continual, sustained, persistent
  • p'un
    Mae angen gofal wrth gyfieithu:
    To see whether a new strategy is needed
    Anghywir: Er mwyn gweld p’un a oes angen strategaeth newydd
    Cywir: Er mwyn gweld a oes angen strategaeth newydd
  • rhagenwau

    Anghywir: pethau yr ydym wedi gweld
    Cywir: pethau yr ydym wedi’u gweld

    Anghywir: Roeddwn wedi’m syfrdanu
    Cywir: Roeddwn wedi fy syfrdanu

    Anghywir: Fel a nodwyd yn y llythyr
    Cywir: Fel y nodwyd yn y llythyr

    Anghywir: Canllawiau a gytunir yn y cyfarfod
    Cywir: Canllawiau y cytunir arnynt yn y cyfarfod

    Anghywir: Pwyntiau a gyfeirir atynt wrth drafod
    Cywir: Pwyntiau y cyfeirir atynt wrth drafod

    Anghywir: Ni wyddom beth yn fwy a ellir ei wneud
    Cywir: Ni wyddom beth yn fwy y gellir ei wneud

    Anghywir: Unrhyw bwyntiau y bydd gennych
    Cywir: Unrhyw bwyntiau a fydd gennych

    Anghywir: Yr effaith y bydd hyn yn ei gael
    Cywir: Yr effaith y bydd hyn yn ei chael
    (am fod ‘effaith’ yn fenywaidd)

  • rhain / rheini

    Cywasgiad o 'rhai hyn' yw 'rhain', nid ansoddair, felly ni ddylid defnyddio ymadroddion fel ‘y dyddiau rhain’ (‘y dyddiau rhai hyn’) a ‘y bobl rheini’ (‘y bobl rhai hynny’).
    ‘Y dyddiau hyn’ a ‘y bobl hynny’ sy’n gywir.

    Wrth gyfieithu ‘these/those’ mae angen rhoi ‘y’ o flaen ‘rhai’, ‘rhain’ a ‘rheini’.

    Er cysondeb, defnyddiwch ‘y rheini’, nid ‘y rheiny’.

    Wrth gyfeirio at ‘those’ gall fod yn well defnyddio ‘y rhai’:
    er mwyn arbed amser y rhai sy’n gorfod mynd i’r cyfarfod, nid ‘er mwyn arbed amser y rheini sy’n gorfod mynd i’r cyfarfod’

  • should
    Mae angen gwahaniaethu rhwng 'should' - 'dylai' a 'must' - 'rhaid'
  • tra

    Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘tra’ ond mae angen berf:
    tra oeddwn yn teithio dramor, nid ‘tra’n teithio dramor’

    tra oedd, nid ‘tra roedd’

  • treiglo

    adferf amser
    yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

    biliwn / miliwn
    Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

    ‘bod’ neu ‘fod’
    Nid oes angen treiglo:
    ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
      credir bod, dywedwyd bod
    ar ôl berfenw:
      credu bod, dweud bod
    ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

    Mae angen treiglo:
    ar ôl ffurfiau cryno’r ferf:
       credaf fod, dywedodd fod
    ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

    byth
    Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
    Nid yw byth yn methu

    cyfres o enwau 
    Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad.
    Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
    Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

    Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

    Sylwer hefyd: ardal lai ffafriol, ffordd fwy prysur.

    fe’i
    Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
    fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
    Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
    fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

    hefyd
    a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

    ‘ll’ a ‘rh’
    nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
    ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
    ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
    ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
    ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

    mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
    ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
    fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

    neu
    Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
    dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
    Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’:
    Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

    rhaid
    Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
    A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
    Nid oes rhaid codi'n fore
    neu Nid oes raid codi'n fore

    Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

    y cysylltair ‘a’ (and)
    a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

    ‘y tair’, ‘y pedair’ sy’n gywir – does dim treiglad
     
    yn + ansoddair o flaen berfenw
    Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
    mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
    yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

    yn enwedig
    Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
    yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’

  • when
    pan fydd, nid 'pan bydd'
  • where

    'pan' neu 'os’ pan fo’n ‘amgylchiadol’ (circumstantial) ei ystyr:
    ‘Where a pupil is suspended, the parent must be informed’
    'Pan fo disgybl yn cael ei wahardd, rhaid hysbysu'r rhiant'

    ‘lle’ pan fo’r testun yn cyfeirio at leoliad penodol (locational):
    ‘Premises where education is provided’
    'Mangre lle y darperir addysg'

  • whether
    ‘a’, nid ‘os’ na ‘p’un:
    'gofynnodd iddo a oedd am fynd i’r cyfarfod', nid ‘gofynnodd iddo os oedd am fynd i’r cyfarfod’ na ‘gofynnodd iddo p’un ai a oedd am fynd i’r cyfarfod’.
    Rhaid bod yn ofalus gan y defnyddir 'if' yn aml yn Saesneg er mai 'whether' yw'r ystyr ee 'she asked if he wanted to attend the meeting' yn hytrach na 'she asked whether he wanted to attend the meeting'.
  • whether ... or not
    a ... ai peidio, nid ‘os ... neu beidio’ na ‘p’un a/ai ... neu beidio’
  • y / yr

    Mae angen rhoi ‘y/yr’ o flaen teitl neu swydd:
    yr Athro Dafydd Dafis
    Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
    yr Arglwydd Hutton
    (ond ddim o flaen ‘Arglwydd + enw lle’, ee 'Arglwydd
         Tonypandy')

    Mae angen rhoi’r fannod o flaen enwau ieithoedd:
    y Gymraeg, y Saesneg, yr Eidaleg

    Gyda llythyren fach yr ysgrifennir y fannod mewn teitlau neu enwau lleoedd yng nghanol brawddeg:
    Gwelais ef yn y Bala, nid ‘Gwelais ef yn Y Bala’,
    Anfonwch ef at y Llywydd, nid ‘Anfonwch ef at Y Llywydd’

    Mae angen priflythyren mewn cyfeiriad:
    25 Stryd y Bont, Y Barri

    Geiriau â'r ddeusain 'wy':
    Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw glynu at ddefnyddio 'yr' o flaen geiriau sy'n cychwyn â'r ddeusain 'wy', fel 'yr wybodaeth, 'yr Wyddeleg' ac 'yr wynebau'. Am ragor o wybodaeth, gweler Orgraff yr Iaith Gymraeg (tt. 45-7) a Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn Thomas, tt. 787-8.

    Cwestiynau adferfol: ‘sut’, ‘pryd’, beth’ etc (gweler hefyd yr erthygl 'cyweiriau')

    • Mae angen cynnwys y geiryn ‘y’ (y rhagenw perthynol traws) yn y cywair ffurfiol:
       Pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad? nid ‘pryd bydd/pryd fydd’
      Mewn cyweiriau eraill (heblaw’r cywair llafar), os penderfynir ei hepgor, rhaid cynnal y ffurf gysefin:
       Sut cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo? nid ‘sut gafodd’
    • Mewn brawddegau perthynol mae angen cynnwys ‘y/yr’ o flaen ‘mae’:
       y siop y mae’r pentrefwyr wedi ei hagor

    Nid oes angen ‘y/yr’ (y geiryn rhagferfol) o flaen ‘mae’ na ‘maent’ ond lle bo angen defnyddio’r cywair clasurol.

  • galluogi
    'galluogi rhywun i wneud rhywbeth'
    nid ‘galluogi i rywun wneud rhywbeth’
  • gan mwyaf
    nid ‘gan fwyaf’
  • gwybodaeth
    Enw benywaidd yw ‘gwybodaeth’ felly bydd angen cynnal y treiglad drwy’r frawddeg ar ei hyd.

    Defnyddiwch yr wybodaeth, nid ‘y wybodaeth’.

  • a heb
    nid 'ac heb'
  • a hefyd

    nid ‘ac hefyd’

  • ac eithrio
    nid 'ag eithrio'
  • ac iaith
    nid 'a iaith'
  • ac iechyd
    nid 'a iechyd'
  • â / ag

    Yn dilyn rhai berfau:
    cwrdd â, peidio â

    I ddynodi meddiant:
    y ferch â’r ffrog werdd

    Ar ôl y radd gymharol wrth gymharu ansoddeiriau (y cysylltair as):
    mor goch â thân, cyn gryfed ag arth

    I ddynodi offeryn (yr arddodiad with):
    lladdwyd y dyn â chleddyf (nid ‘gyda’)

    Negydd ‘â’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
    mae’r Wyddfa yn uwch na Chadair Idris
     
    Negydd ‘ag’ yw ‘nag’ (o flaen llafariaid):
    yn drymach nag ef

  • berfau

    amserau’r ferf
    Mae angen gofal wrth ddefnyddio gwahanol amserau’r ferf.

     The Minister said (gorffennol)  Dywedodd y Gweindog
     The Minister has said (perffaith)  Mae'r Gweinidog wedi dweud
     The Minister had said (gorberffaith)  Roedd y Gweinidog wedi dweud
     The Members hoped (amherffaith)  Roedd yr Aelodau'n gobeithio neu Gobeithiai'r Aelodau nid Gobeithiodd yr Aelodau (gorffennol)
     The First Minister said (gorffennol) he would (amherffaith)  Dywedodd y Prif Weinidog y bydd (dyfodol)

    ffurfiau cryno a ffurfiau cwmpasog
    Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau cryno’r ferf bob tro: hynny yw, nid yw ‘golyga hynny’ yn well Cymraeg na ‘mae hynny’n golygu’. Mae i’r ddau eu lle a dylid dewis a dethol yn ofalus rhwng ffurfiau cryno a chwmpasog yn ôl yr ystyr y mae angen ei gyfleu. Bydd angen ystyried hefyd effaith defnyddio’r ffurf gwmpasog ar hyd y testun cyfan os bydd cyfyngiadau o ran lle.

    Mae ffurfiau cryno megis ‘penderfynodd yr aelodau’, a ‘clywodd y bobl’ yn ddigon cyfarwydd, ac felly nid oes rheswm dros eu hosgoi a defnyddio ffurfiau megis ‘fe wnaeth yr aelodau benderfynu’ a ‘fe wnaeth y bobl glywed’.

    Mae i’r ffurfiau cwmpasog eu lle fodd bynnag pan fo angen osgoi ffurfiau clogyrnaidd neu orlenyddol. Er enghraifft, gellir dweud ‘fe wnaethant gydnabod’ yn hytrach na ‘cydnabuasant’, a ‘fe wnaethoch wrthod’ yn hytrach na ‘gwrthodasoch’.

    Ceisiwch osgoi’r ffurfiau ‘bu inni’, ‘bu iddynt’ etc lle bo modd. Mae ‘fe wnaethon ni fwynhau ein hunain’ yn well na ‘bu inni fwynhau ein hunain’.

    Mae i’r geiryn rhagferfol ‘fe’ ei le yn ein gwaith ni hefyd lle bo’n helpu llif y frawddeg neu’n cryfhau ystyr y ferf sy’n dilyn, ee Do, fe ddaeth y llythyr ymhen hir a hwyr. Dylech osgoi ei orddefnyddio serch hynny ac ni ddylid defnyddio ‘mi’, ac eithrio mewn sgriptiau ac ati.

    ffurfiau amhersonol
    Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau amhersonol bob tro. Gallwch eu defnyddio mewn testun ffurfiol ei naws ond os byddwch yn cyfieithu ar gyfer y cyhoedd, dyweder, gallwch hepgor yr amhersonol, ee Os yw eich eiddo ym mand C … yn hytrach na ‘Os gosodwyd eich eiddo ym mand C …’.

    berfau cynorthwyol
    Mae angen gofal wrth drosi ymadroddion lle defnyddir berfau’n gynorthwyol yn Saesneg.

     Saesneg Cymraeg   nid...
     to make use of  defnyddio  gwneud defnydd o
     to pay a visit  ymweld â  talu ymweliad â

     this represents a step forward

     mae hyn yn gam ymlaen  mae hyn yn cynrychioli cam ymlaen
     this serves as a warning  mae hyn yn rhybudd  mae hyn yn gwasanaethu fel rhybudd
     to give consideration to  ystyried  rhoi ystyriaeth i
     to take account of / to take into consideration  ystyried  cymryd ystyriaeth o
     to make attempts to  ceisio  gwneud ymgais i
     to make efforts to  ymdrechu  gwneud ymdrech i
     to make a decision  penderfynu  gwneud penderfyniad

     

  • llwyth / llwythau
    tribes
  • llwyth / llwythi
    loads
  • pobl

    Gallwch ddefnyddio ‘pobl’ yn lle ‘personau’ am ‘persons’.

    Enw benywaidd unigol yw ‘pobl’ ac felly ‘y bobl dda’ sy’n gywir.

  • unrhyw beth / unrhyw un

    unrhyw beth, unrhyw un, nid ‘unrhywbeth’, ‘unrhywun’

    Ceisiwch beidio â gorddefnyddio’r ffurfiau uchod wrth gyfieithu any/anyone. Er enghraifft:

    defnyddiwch: nid ydym wedi gallu gwneud dim eto
    yn hytrach na: 'nid ydym wedi gallu gwneud unrhyw beth eto'

    defnyddiwch: nid oes gan yr un siaradwr
    yn hytrach na: 'nid oes gan unrhyw siaradwr'

    defnyddiwch: bydd gan y sawl a fydd yn cyflwyno adroddiad
    yn hytrach na: 'bydd gan unrhyw un a fydd yn cyflwyno adroddiad'

    defnyddiwch: nid oedd neb wedi gwneud cwyn
    yn hytrach na: 'nid oedd unrhyw un wedi gwneud cwyn'

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig