Yn feirdd, yn awduron ac yn ddramodwyr, 'does dim prinder sgwennwyr yng Nghymru.

Cymraeg yw iaith rhai o gerddi hyna'r byd.  Ers y chweched ganrif mae llenyddiaeth wedi bod yn rhan allweddol o'n diwylliant ac mae'n dal i chwarae rhan bwysig a hynod boblogaidd ym mywyd nifer ohonom heddiw.

Ysgrifennu a Chyhoeddi

Conglfaen y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yw Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth. Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaethau arbenigol ym maes golygu, dylunio a dosbarthu, yn ogystal â rhoi grantiau i gyhoeddwyr.

Ar wefan y Cyngor gwales.com gelli bori drwy dros 30,000 o deitlau llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig i'w prynu.  Ac mae 'na Ap Llyfrau ar gael yn rhad ac am ddim sy'n gwneud lawrlwytho e-lyfrau'n haws.

Llenyddiaeth Cymru yw’r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru - yn Gymraeg a'r Saesneg. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys Yr Academi Gymreig – y gymdeithas i lenorion Cymru, a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Llenyddiaeth Cymru sy'n penodi Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau lansio llyfrau, teithiau llenyddol, ymweliadau ysgol, gweithdai a chystadlaethau sgwennu - gan gynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn, cyrsiau ysgrifennu yn Tŷ Newydd, ariannu a chynghori awduron, Gŵyl Llenyddiaeth Dinefwr a gwyliau Tŷ Newydd. Ar ei wefan cei newyddion am y digwyddiadau llenyddol diweddaraf drwy Gymru a rhestr o gyrsiau i sgwennwyr o bob lefel.

Barddoniaeth

"Gwlad beirdd" yw Cymru ac mae hynny i'w glywed yn glir bob wythnos ar un o raglenni mwyaf poblogaidd BBC Radio Cymru  - Talwrn y Beirdd.

Yn y gystadleuaeth farddoni wythnosol hon mae timau o feirdd lleol o bob rhan o Gymru yn cystadlu yn erbyn ei gilydd dan oruchwyliaeth y llywydd a'r Meuryn - Ceri Wyn Jones. Tîm Caernarfon oedd enillwyr Talwrn y Beirdd 2014 ac mae'n werth dilyn trydar un o'i aelodau, Llion Jones, wrth iddo gynganeddu er mwyn Trydar mewn Trawiadau.

Darllen

Am syniadau ar gyfer beth i'w ddarllen cymer olwg ar yr adolygiadau o lyfrau Cymraeg ar gwales.com. Mae nifer o raglenni teledu a radio hefyd yn rhoi sylw rheolaidd i fyd y llyfrau, gan gynnwys Prynhawn Da a Pethe ar S4C a Stiwdio ar BBC Radio Cymru. Yn y wasg Gymraeg gelli ddarllen adolygiadau o'r llyfrau diweddaraf mewn amryw o gylchgronau gan gynnwys Golwg, Barn ac Y Cymro.

Os wyt ti'n hoffi darllen a thrafod llyfrau, mae 'na glybiau llyfrau Cymraeg yn cael eu cynnal mewn cartrefi, capeli a gwahanol gymdeithasau ledled y wlad. Gofynna yn dy lyfrgell leol beth sydd ar gael neu edrycha ar wefannau’r Mentrau Iaith.

Mae 'na fwy o fanylion am y wasg Gymraeg ac am siopau llyfrau Cymraeg ar ein tudalennau Siopa.

Plant

Mae gan Gymru Fardd Plant arbennig - un yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llenyddiaeth Cymru sy'n penodi Bardd Plant Cymru gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau - Anni Llŷn yw Bardd Plant Cymru nawr . Mae'r Bardd Plant yn teithio o gwmpas ysgolion ac yn cymryd rhan mewn sesiynau gyda phlant mewn gwyliau a digwyddiadau.

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor Llyfrau yn cyflwyno Gwobr Tir na n-Og i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc.

Mewn nifer o siroedd mae Sgwadiau Sgwennu'r Ifainc yn cael eu cynnal gan rai awdurdodau lleol a Llenyddiaeth Cymru i hybu sgwennwyr ifanc disglair.

Mae'r Cyngor Llyfrau wedi lansio cynllun Llyfr y Mis i Blant ac yn cefnogi nifer o weithgareddau arbennig i blant ar Ddiwrnod y Llyfr bob blwyddyn. I weld pa lyfrau Cymraeg sydd ar gael i blant o bob oed ac i weld pa gyfrol yw Llyfr y Mis  cymer olwg ar safle'r Cyngor Llyfrau gwales.com.

Cyhoeddiadau a Blogiau

I gael blas ar waith rai o lenorion amlycaf Cymru cymer olwg ar Taliesin. Mae'r cylchgrawn llenyddol yn cael ei gyhoeddi tair waith y flwyddyn gan yr Academi Gymreig gyda chymorth grant gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae Taliesin yn llawn cerddi, erthyglau, straeon byrion, ysgrifau, adolygiadau a chyfieithiadau i’r Gymraeg o lenyddiaethau eraill.

Os wyt ti'n hoffi ysgrifennu neu ddarllen llenyddiaeth gyfoes a mwy arbrofol yna Y Neuadd yw'r lle i ti fynd. Mae Y Neuadd yn ofod ar gyfer awduron a darllenwyr sy’n hoff o lenyddiaeth o bob math ond yn arbennig, llenyddiaeth sy’n gwthio’r ffiniau. Mae'r cylchgrawn digidol yn cyhoeddi barddoniaeth, straeon, ysgrifau, adolygiadau, erthyglau ac ambell bennod o nofelau sydd ar y gweill.

Bob blwyddyn mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi holl waith buddugol llenyddol yr ŵyl yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau - mae'n werth ei ddarllen.

Mae blog Pethe yn trin a thrafod pob math o lyfrau Cymraeg tra fod yr awdur Bethan Gwanas a'r darlithydd Dr Siwan Rosser yn blogio am lyfrau plant.

Digwyddiadau

Mae'r eisteddfodau lleol ac eraill sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru drwy'r flwyddyn yn gyfle gwych i sgwennwyr ymarfer eu crefft a chystadlu. Mae'r gorau o blith beirdd ac awduron Cymru yn cael eu hanrhydeddu bob blwyddyn wrth gwrs yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. I'r ifanc mae Eisteddfod yr Urdd, sy'n cael ei chynnal bob mis Mai, yn rhoi cyfle i blant drwy Gymru i ymarfer eu doniau ym maes rhyddiaith, barddoniaeth a drama.

Mae nifer o wyliau llenyddol a chelfyddydol lleol a chenedlaethol yng Nghymru - mae Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin bob dwy flynedd a Gŵyl y Gelli yn cynnwys elfennau o lenyddiaeth Cymraeg erbyn hyn.

Os wnei di edrych ar wefan neu danysgrifio i gylchlythyr Llenyddiaeth Cymru gelli ganfod y digwyddiadau llenyddol diweddaraf i ddarllenwyr a sgwennwyr drwy Gymru.

Hanes Llenyddiaeth Gymraeg

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i rai o’n gweithiau llenyddol pwysica’. Yma mae Llyfr Taliesin, er enghraifft - casgliad o rai o gerddi hyna'r iaith Gymraeg. Gelli di ymweld â’r Llyfrgell yn Aberystwyth neu bori rhai o'r casgliadau ar-lein.

I gael trosolwg o hanes llenyddiaeth Gymraeg ar y we cymer olwg ar erthygl Wikipedia yn Gymraeg ar y pwnc.

Mae nifer o gyrsiau arbenigol yn astudio Llenyddiaeth Cymru i'w cael ym Mhrifysgolion Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig