Mae Cymru’n aml yn cael ei galw’n wlad y gân.  Dyw hynny ddim yn golygu bod pawb sy’n byw yma o reidrwydd yn gallu canu ond mae e’n wir bod gennym ni draddodiad cerddorol cyfoethog, o ganu corawl i ganu poblogaidd ac o fandiau pres i gerddoriaeth werin.

Corau

Mae ’na gorau meibion, corau merched a chorau cymysg ym mhob cwr o’r wlad. Os wyt ti eisiau ymuno ag un ohonyn nhw, mae ’na restr gynhwysfawr ar wefan Tŷ Cerdd.  Os mai gwrando sydd gen ti mewn golwg, cymer olwg ar wefannau fel Sain lle mae ’na ddewis helaeth o CDs cerddoriaeth gorawl.

Cerdd Dant

Math draddodiadol o gerddoriaeth sy'n unigryw i Gymru yw Cerdd Dant.

Yn syml, canu barddoniaeth i gyfeiliant telyn yw Cerdd Dant ac o’r herwydd mae weithiau’n cael ei alw’n ‘canu penillion’.

Mae cystadlaethau cerdd dant yn rhan bwysig o unrhyw Eisteddfod ac mae’r Ŵyl Gerdd Dant flynyddol yn denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru.  Y lle gorau i gael gwybod mwy am y traddodiad yw gwefan Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

Opera a Chlasurol

Sefydlwyd Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) ym 1943.  Gyda’i gartref yng Nghaerdydd, dyma gwmni opera teithiol mwyaf y Deyrnas Unedig ac mae’n enwog drwy’r byd am ei gynyrchiadau.

Cafodd Opera Canolbarth Cymru ei sefydlu ym 1988 ac mae wedi derbyn dwy wobr Prudential ar gyfer "rhagoriaeth, creadigrwydd, arloesedd a hygyrchedd.”

Bob blwyddyn, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cyflwyno gwobr y Rhuban Glas i’r canwr unigol gorau.  Llwyfan bwysig arall yw cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, sy’n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ar gyfer unawdwyr cyngerdd ac opera rhyngwladol.

Fe ffurfiwyd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC ym 1983 ac mae wedi datblygu’n un o brif gorysau cymysg y Deyrnas Unedig.  Mae’r Corws yn cydweithio’n agos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae cantorion opera di-ri o Gymru wedi ennill bri yn rhyngwladol – yn eu plith Bryn Terfel, Rebecca Evans, Elin Manahan Thomas, Wynne Evans a Katherine Jenkins.  Mae nifer o gyfansoddwyr o Gymru hefyd yn enwog ledled y byd, gan gynnwys Karl Jenkins a’r diweddar Alun Hoddinot.

Cerddorfeydd a Bandiau

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi bod yn perfformio i gynulleidfaoedd ers 1928.  Mae’n gerddorfa ddarlledu ac yn gerddorfa symffoni genedlaethol Cymru. 

Er mai BBC Cymru wnaeth sefydlu’r Gerddorfa, mae bellach yn cael arian hefyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.  Mae’n un o nifer o fudiadau cerddoriaeth sy’n cael eu cefnogi gan y Cyngor.

Ymhlith rhai o’r prif gerddorfeydd eraill sy’n perfformio ar hyd a lled y wlad mae Cerddorfa Siambr Cymru a’r Sinffonia Gymreig.

Mae ’na draddodiad hir o fandiau pres yng Nghymru.  Mae gwreiddiau rhai bandiau - fel Band Pres Dinas Caerdydd Melin Griffith a Band y Cory - yn ymestyn nôl ymhell dros gan mlynedd.  Mae ’na le amlwg iddyn nhw ymhob Eisteddfod ac ers 2014 mae S4C yn darlledu cystadleuaeth arbennig i fandiau pres o’r enw Band Cymru.

Mae rhestr lawn o fandiau pres a cherddorfeydd Cymru ar wefan Tŷ Cerdd.

Poblogaidd

Fe ddaeth canu pop Cymraeg yn amlwg yn y 1960au a’r 1970au, ac mae enwau mawr y cyfnod yn cynnwys Dafydd Iwan, Meic Stevens, Heather Jones, Geraint Jarman ac Edward H. Dafis.

Roedd sefydlu label recordio Sain ym 1969 yn hwb i’r sîn.  Ar hyd y blynyddoedd, mae Radio Cymru (a lansiwyd ym 1977) ac S4C (a ddechreuodd ddarlledu ym 1982) hefyd wedi cynnig llwyfan bwysig i gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd.

Mae’r awdur Hefin Wyn o Sir Benfro wedi cyhoeddi dau lyfr am ganu poblogaidd Cymraeg, sydd ar gael ar gwales.com: Be Bop a Lula’r Delyn Aur, sy’n olrhain y cyfnod o’r 1940au i ddiwedd y 1970au a Ble Wyt ti Rhwng, sy’n adrodd stori’r sîn roc Gymraeg rhwng 1980 a 2000.

Mae sawl erthygl am gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ar wefan Wikipedia a rhestr lawn o artistiaid Cymraeg ar wefan Radio Cymru.  Mae sylw hefyd i’r sîn gyfoes yng nghylchgrawn Golwg a gwybodaeth bellach ar ein tudalennau cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Gwerin a Jazz

Mae’r Ŵyl Gerdd Dant, yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Llangollen i gyd yn cynnig llwyfan i gerddoriaeth werin Gymraeg.  Mae Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn cyhoeddi cylchgrawn ‘Canu Gwerin’ bob Awst ac yn trefnu gweithgareddau yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 2007, fe agorodd Tŷ Siamas yn Nolgellau fel Canolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Cymru.  Maen nhw’n trefnu gigs gwerin yn ogystal â gwersi offerynnol ac arddangosfeydd.

Mae sîn jazz fywiog yng Nghymru hefyd, gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu yn hynod boblogaidd ac yn denu miloedd ar filoedd i’r Bannau bob blwyddyn.  Cei fwy o wybodaeth ar wefannau Treftadaeth Jazz Cymru, Jazz Gogledd Cymru a blog Jazz in Wales.

Gwyliau

O Sesiwn Fawr Dolgellau i Ŵyl y Dyn Gwyrdd yn y Gelli, mae pob math o gerddoriaeth yn cael ei berfformio mewn gwyliau ledled Cymru.  Mae mwy o fanylion ar ein tudalen Gwyliau a Digwyddiadau neu cymer olwg ar ein Digwyddiadur.

Ieuenctid

Y lle gorau i fynd os wyt ti eisiau gwybod be sy’ ar gael i bobl ifanc yw gwefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.  Mae ’na wybodaeth yno am gorau, cerddorfeydd, bandiau pres, bandiau jazz a theatr ieuenctid Cymru.

Cyffredinol

Nod Tŷ Cerdd  yw hyrwyddo cerddoriaeth yng Nghymru tra fo Cerdd Gymunedol Cymru yn trefnu gweithgareddau cerddoriaeth gyda grwpiau ac unigolion ledled y wlad.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi casglu Cyfeirlyfr Cerddoriaeth Byd o Gymru. 

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig