Trwy fod mewn cysylltiad â’r gwahanol gymdeithasau dw i wedi dysgu mwy am wir hanes Cymru

Fe wnes i briodi Mererid ac roedd dysgu Cymraeg yn rhan o’r fargen. Sut arall allwch chi rannu’ch bywyd gyda rhywun? Fe wnes i gwrs carlam am bythefnos nôl yn 1975, ac ers hynny dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy ddefnyddio hi gyda’r teulu a ffrindiau. 40 mlynedd yn ddiweddarach dyw fy Nghymraeg ddim yn berffaith a dw i'n dal yn ffeindio hi’n anodd ysgrifennu. Dylwn i drio darllen mwy.

Ers byw yn Sir Benfro dw i’n dewis hobïau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Ar hyn o bryd dw i’n gadeirydd Cylch Cinio Hwlffordd, y cylch cinio lleol. Rydyn ni’n ceisio cadw’r cyfarfodydd yn ysgafn a hwyliog, wedi’r cyfan mae’r aelodau’n dod i fwynhau eu hunain. Bod yn ffraeth yw un o’r pethau mwya anodd pan rydych chi’n dysgu iaith. Mae siaradwyr gwadd yn dod bob mis a dw i’n gorfod cyflwyno nhw a gwneud nhw’n gartrefol. Un fantais yw fy mod i’n cwrdd â’r gwesteion ac yn siarad â nhw, felly dw i’n gwneud ffrindiau hefyd. Eleni mae nifer o’r aelodau wedi tyfu barf at achos Prostate Cymru, gan godi dros £2,000.

Pan ddaeth Steddfod yr Urdd i Sir Benfro yn 2013 ro’n i’n cadeirio’r pwyllgor celf a chrefft. Roedd y pwyllgor yn llawn pobl dalentog ac egnïol iawn oedd yn barod i roi o’u hamser, eu profiad a’u cysylltiadau. Felly, er i ni weithio’n galed i godi arian a gosod yr arddangosfa o’r gweithiau celf a enillodd, roedd hefyd yn lot o hwyl. Mae mynd i unrhyw Steddfod yn ffordd i gwrdd â ffrindiau, mwynhau’r awyrgylch a gweld y dalent sydd yng Nghymru. Mae bod yn aelod o’r sefydliad am ddwy flynedd yn helpu chi i wir werthfawrogi beth mae’n ei olygu a’r ymdrech mae pawb yn ei gwneud i ddod â’r cyfan at ei gilydd.

Dw i’n drysorydd ar Fforwm Hanes Cymru, sy’n bodoli i alluogi’r cymdeithasau hanes i gyd rannu stondin yn y Steddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Mae hwn yn rhoi cyfle arall i mi wneud a chwrdd â ffrindiau ac i fod yn rhan o bob Steddfod. Trwy fod mewn cysylltiad â’r gwahanol gymdeithasau dw i wedi dysgu mwy am wir hanes Cymru o’r cyfnod cyn dyddiau Hywel Dda, i adeg tywysogion Cymru ac Owain Glyndŵr, i hanes mwy modern Cymru fel y capeli, cloddio, trethu a thrafnidiaeth, a bywydau rhai o’r bobl sydd wedi gwneud Cymru’n genedl mor wych yn y canrifoedd diwethaf.

Roedd Edward Llwyd (1660-1709) yn naturiaethwr, daearegwr, ieithydd a hanesydd, ac mae’i gymdeithas yn gweithio o hyd i’w goffáu gyda theithiau cerdded dan arweiniad bob dydd Sadwrn rywle yng Nghymru. Yn ystod y teithiau yma dw i wedi dod i wybod mwy am bobl, planhigion, golygfeydd a hanes Cymru. Dw i hyd yn oed wedi arwain rhai o’r teithiau cerdded  ac wedi gorfod gwneud ymchwil ar ardal arbennig a chynllunio’r diwrnod. Mae ymchwilio’n gallu eich synnu. Oeddech chi’n gwybod bod Rocky Marciano wedi bocsio am y tro cyntaf mewn gwersyll yn Rosebush wrth odre’r Preseli?

A hyn i gyd yn Gymraeg!  

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig